Lles ac Ymgynghoriaeth Sefydliadol ledled Cymru

Mae cefnogi cydweithwyr yn sector iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn rhywbeth yr ydym yn ymfalchïo ynddo. Mae gennym hanes cryf o weithio mewn partneriaeth ac arloesi gyda sefydliadau o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae pob achos o gydweithio yn unigryw ac yn dechrau gyda sgwrs ymgynghorol. Mae gennym set sgiliau proffesiynol eang o fewn ein tîm sy’n ein galluogi i asesu, llunio a deall anghenion eich sefydliad sy’n gysylltiedig â lles, boed yn faterion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, morâl, iechyd, arweinyddiaeth, diwylliant, diogelwch neu berfformiad. O ystyried bod y dystiolaeth gyfredol yn awgrymu bod yr holl faterion hyn yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â lles cyflogeion, mae Gwasanaeth Lles Cyflogeion BIPAB mewn sefyllfa dda i helpu.

Well-being and Organisational Consultancy across Wales

Supporting colleagues in the Welsh health and social care sector is something we pride ourselves in. We have a strong track record of partnership working and innovation with organisations from across the Welsh public sector. Each collaboration is unique and begins with a consultative conversation. We have a broad professional skill set within our team that allows us to assess, formulate and understand the well-being related needs of your organisation, be these issues of sustainability, morale, health, leadership, culture, safety or performance. Given that current evidence suggests all of these issues are linked in some way to employee well-being the ABUHB Employee Well-being Service is well placed to help.

Sefydliadau Partner / Partner Organisations